eConsult
'Mae eConsult yn galluogi practisau meddygon teulu i gynnig ymgynghoriadau ar-lein i'w cleifion. Mae hyn yn caniatáu i gleifion gyflwyno eu symptomau neu eu ceisiadau i'w meddyg teulu eu hunain yn electronig, ac mae'n cynnig gwybodaeth gyson am hunangymorth, cyfeirio at wasanaethau, a gwiriwr symptomau ar y GIG.' eConsult
Sut mae'n gweithio
eConsult yng Ngogledd Cymru
Mae 53 o bractisau yng Ngogledd Cymru bellach yn defnyddio eConsult (o fis Gorffennaf 2020), mae eConsult yn caniatáu i gleifion gyflwyno eu symptomau neu eu ceisiadau i'w meddyg teulu eu hunain yn electronig, ac mae'n cynnig gwybodaeth gyson am hunangymorth, cyfeirio at wasanaethau, a gwiriwr symptomau ar y GIG.
Mae cyllid wedi'i sicrhau, a chaiff y broses o reoli'r prosiect, ei gyflwyno a'i werthuso ei reoli trwy'r Academi am y ddwy flynedd nesaf. Caiff arfer parhaus ac adborth cleifion eu rhoi trwy gydol y cyfnod hwn.
Adborth Cleifion
Mae lefel y boddhad ar ddefnyddio eConsult yn fawr, ac mae'r rhan fwyaf o gleifion yn fodlon iawn ar ddefnyddio eConsult, a byddent yn ei argymell i ffrindiau a'r teulu.
Cofrestru fel Practis
Os ydych yn bractis yng Ngogledd Cymru a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am eConsult, cysylltwch am fwy o wybodaeth.